SL(5)267 - Rheoliadau Meysydd Tref a Phentref (Datganiadau Perchnogion Tir) (Cymru) (Rhif 2) 2018
Cefndir a Diben
Caniateir i dir gael i gofrestru fel maes tref neu bentref o dan yr amgylchiadau a bennir yn adran 15 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 ("Deddf 2006"). Un o nodweddion pob un o'r amgylchiadau hynny yw bod rhaid bod nifer sylweddol o drigolion unrhyw ardal leol, neu unrhyw gymdogaeth o fewn ardal leol, wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden cyfreithlon 'drwy hawl' ar y tir o dan sylw am gyfnod o 20 mlynedd o leiaf.
Mae Adran 15A(1) o Ddeddf 2006 yn caniatáu i berchennog tir o'r fath adneuo datganiad gyda'r awdurdod cofrestru tiroedd comin, ac effaith hynny yw dwyn i ben unrhyw gyfnod lle mae personau wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden cyfreithlon drwy hawl ar y tir y mae'r datganiad yn ymwneud ag ef. Rhaid i fap fynd gyda'r datganiad.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag adneuo datganiadau o dan adran 15A(1) o Ddeddf 2006 a materion cysylltiedig.
Y weithdrefn
Negyddol.
Materion technegol: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.
Rydym yn croesawu'r newidiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn o ran y pryderon preifatrwydd a hawliau dynol a godwyd gennym wrth graffu ar fersiwn wreiddiol Rheoliadau Meysydd Tref a Phentref (Datganiadau Perchnogion Tir) (Cymru) 2018.
Rydym hefyd yn croesawu ymateb cyflym Llywodraeth Cymru i'r pryderon a godwyd. Yn hynny o beth, rydym yn cytuno bod cyfiawnhad dros dorri'r rheol 21 diwrnod (hy y rheol y dylid gadael o leiaf 21 diwrnod rhwng gosod offerynnau'r weithdrefn penderfyniad negyddol gerbron y Cynulliad a'r dyddiad y daw i rym) yn yr achos hwn.
Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb y llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
26 Hydref 2018